Senior Journalist Reporter – Uwch Newyddiadurwr / Gohebydd
he Senior Journalist Reporter will be part of the BBC Wales News and Current Affairs team, focusing on South-East Wales.
MANYLION Y SWYDD
BAND Y SWYDD: D
MATH O GONTRACT: Cytundeb cyfnod penodol tan y 26ain Mawrth 2027
ADRAN: Newyddion a Materion Cyfoes BBC Cymru
LLEOLIAD: Caerdydd
YSTOD CYFLOG: £41,200 – £50,000 y flwyddyn yn ddibynnol ar sgiliau, gwybodaeth a phrofiad perthnasol. Mae’r amrediad cyflog disgwyliedig ar gyfer y swydd hon yn adlewyrchu meincnodi mewnol a gwybodaeth am y farchnad allanol.
Rydym ni’n fodlon trafod gweithio’n hyblyg. Os hoffech chi wneud hynny, gofynnir yn garedig i chi nodi eich dymuniadau yn y cais – ond does dim rhaid i chi wneud hynny nawr. Bydd gweithio’n hyblyg yn rhan o’r drafodaeth pan gynigir y swydd.
Mae sgiliau’r Iaith Gymraeg yn hanfodol ar gyfer y swydd hon
PWRPAS Y SWYDD
Bydd deilydd y swydd Uwch Newyddiadurwr Gohebydd yn rhan o dîm Newyddion a Materion Cyfoes BBC Cymru yn canolbwyntio ar De-ddwyrain Cymru. Bydd yn ofynnol i’r ymgeisydd lwyddianus darganfod a chyflwyno straeon gwreiddiol sydd yn gosod yr agenda. Bydd disgwyl i’r straeon cael eu darparu yn ddigidol yn gyntaf ac hefyd i raglenni teledu a radio Newyddion BBC Cymru.
Mi fydd y gohebydd yn gyfarwydd a defnyddio triniaethau creadigol a dealladwy er mwyn adrodd straeon i’r gynulleidfa. Bydd hefyd disgwyl i’r gohebydd wneud cyfraniadau byw o leoliadau. Mi fydd cynrychioli cymunedau amrywiol a darparu straeon sydd o ddiddordeb i bob rhan o’r gynulleidfa yn hanfodol – er mwyn sicrhau bod cynnwys BBC Cymru yn berthnasol i bob cwr o gymdeithas. Bydd disgwyl i’r ymgeisydd llwyddiannus weithio’n hyblyg gan ymateb i straeon sy’n torri a gweithio ar straeon sydd wedi eu cynllunio.
PAM YMUNO Â’R TÎM:
Mae’r rôl gyffrous a heriol hon yn cynnwys cyflawni ein blaenoriaethau digidol a darparu cynnwys i’w ddarlledu ar draws ein gwasanaethau teledu a radio, yn ogystal â darlledu’n fyw yn Gymraeg a Saesneg. Fe gewch chi’r cyfle i gynhyrchu straeon a datblygu syniadau gwreiddiol, fyddai’n gweithio ar draws sawl llwyfan a gallu defnyddio amrywiaeth o offer er mwyn adrodd y stori yn y ffordd mwyaf priodol. Darperir hyfforddiant, lle bo angen. Bydd yr ymgeisydd llwyddianus yn aml yn cyd-weithio gyda gohebwyr eraill, yn gweithio yn agos gyda tîmau cynllunio, comisiynnu a’r golygyddion a chynhyrchwyr ddydd.
EICH PRIF GYFRIFOLDEBAU A’CH DYLANWAD:
- Gohebu a dod o hyd i straeon gwreiddiol
- Darparu straeon ar gyfer platfformau digidol yn gyntaf
- Gallu gweithio’n annibynnol a heb oruchwyliaeth mewn awyrgylch brysur
- Cydweithio gyda chynhyrchwyr i sicrhau cynnwys o’r safon uchaf
- Sicrhau cydweithio effeithiol ar draws yr ystafell Newyddion gyda thimau Straeon, Newyddiaduraeth Weledol a Chynulleidfaoedd a thimau Arbenigol a Gwleidyddol yr ystafell newyddion
EICH SGILIAU A’CH PROFIAD
MEINI PRAWF HANFODOL:
- Profiad o ohebu ar straeon gwreiddiol a dealltwriaeth fanwl o ofynion BBC Cymru
- Y gallu i ddarganfod straeon gwreiddiol a’u cynhyrchu i safon uchel iawn gan arddangos crebwyll creadigol a gweledol
- Dealltwriaeth o blatfformau cymdeithasol a sut i gynhyrchu ac addasu straeon gan arddangos dealltwriaeth o anghenion y gynulleidfa
- Y gallu i ddarlledu’n fyw yn Gymraeg a Saesneg
- Gwybodaeth drylwyr a sicr am bolisïau golygyddol ac ymwybyddiaeth o’r ystyriaethau cyfreithiol
- Bydd angen i chi allu gweithio’n dda fel rhan o dim a chyfrannu at wneud yr adran newyddion yn lle gwych i weithio ynddi.
DYMUNOL OND DDIM YN OFYNNOL:
- Gallu ffilmio a golygu i safon uchel
- Gallu i seirnio straeon ddigidol ym meddalfwedd Optimo
- Gwybodaeth dwys o gymunedau De-Ddwyrain Cymru
Os oes gennych chi rai o’r sgiliau a’r profiadau hyn, ynghyd â chryfderau trosglwyddadwy, byddem yn falch o glywed gennych chi ac rydym yn eich annog i wneud cais.
PURPOSE OF THE ROLE
The Senior Journalist Reporter will be part of the BBC Wales News and Current Affairs team, focusing on South-East Wales. The successful candidate will be required to find and deliver original, agenda-setting stories. These stories should be delivered digitally first, as well as for BBC Wales News television and radio programmes.
The Senior Journalist Reporter will be familiar with using creative and clear storytelling techniques to communicate stories to audiences. They will also be expected to contribute live from locations. Representing diverse communities and delivering stories that interest all parts of the audience will be essential, ensuring BBC Wales content is relevant to all parts of society.
The successful candidate will be expected to work flexibly, responding to breaking news as well as working on planned stories.
WHY JOIN THE TEAM
This exciting and challenging role involves delivering our digital priorities and creating content for broadcast across our television and radio services, as well as broadcasting live in both Welsh and English.
You will have the opportunity to produce stories and develop original ideas that work across multiple platforms, using a variety of tools to tell stories in the most appropriate way. Training will be provided where needed.
The successful candidate will often collaborate with other correspondents and work closely with planning teams, commissioning teams, editors, and day producers.
KEY RESPONSIBILITIES AND IMPACT
- Reporting and finding original stories
- Delivering stories for digital platforms first
- Working independently and without supervision in a busy environment
- Collaborating with producers to ensure the highest quality content
- Ensuring effective collaboration across the newsroom with the Stories, Visual Journalism and Audiences teams, and the newsroom’s Specialist and Political teams.
SKILLS AND EXPERIENCE
ESSENTIAL CRITERIA:
- Experience reporting on original stories and a detailed understanding of BBC Wales requirements
- Ability to find original stories and produce them to a very high standard, demonstrating creative and visual judgment
- Understanding of social media platforms and how to produce and adapt stories, showing awareness of audience needs
- Ability to broadcast live in Welsh and English
- Strong knowledge of editorial policies and awareness of legal considerations
- Ability to work well as part of a team and contribute to making the newsroom a great place to work
DESIRABLE :
- Ability to film and edit to a high standard
- Ability to craft digital stories using Optimo software
- Strong knowledge of South-East Wales communities