Prentisiaeth Newyddiadurwr – Lefel 6 – Caerdydd

AI UN O BRENTISIAETHAU’R BBC YW’R SWYDD NESAF I CHI?

 

Ymunwch â ni fel prentis yn y BBC i roi hwb i’ch gyrfa mewn swydd y byddwch wrth eich bodd â hi. Rydym ni wedi ymrwymo i’ch helpu chi i ddatblygu eich sgiliau a’ch talent. Byddwch yn dysgu yn y gwaith ac yn cael cyfle i ddatblygu eich gwybodaeth a’ch sgiliau mewn maes y mae gennych chi ddiddordeb mawr ynddo, a hynny wrth weithio tuag at eich cymhwyster prentisiaeth gydag un o’n darparwyr dysgu.

 

PAM YMUNO Â’R CYNLLUN?

 

Mae’r Brentisiaeth Newyddiadurwr yn cynnig hyfforddiant o’r radd flaenaf i bobl sydd eisoes yn dangos eu potensial fel newyddiadurwyr ac sy’n awyddus i ddatblygu eu sgiliau newyddiadurol.

Fel Prentis Newyddiadurwr yn un o sefydliadau darlledu gwasanaeth cyhoeddus mwyaf y byd, cewch gyfle i gael profiad ymarferol a chreu cynnwys newyddion materion cyfoes o ansawdd uchel ar gyfer y BBC. Byddwch yn meistroli technegau newyddiadurol hanfodol; gan gynnwys ymchwilio, ysgrifennu a darlledu straeon am amrywiaeth eang o bynciau.
Ochr yn ochr â hyn i gyd, byddwch hefyd yn dysgu gan weithwyr proffesiynol profiadol yn y diwydiant ac yn gweithio gyda nhw o ddydd i ddydd. Byddwch yn gweithio tuag at Brentisiaeth Lefel 6 a Chymhwyster Cenedlaethol mewn Newyddiaduraeth (NQJ) gan y Cyngor Cenedlaethol ar gyfer Hyfforddi Newyddiadurwyr (NCTJ). Mae’r cymhwyster hwn yn cael ei gydnabod gan y diwydiant.

I gael rhagor o wybodaeth am y cynlluniau rydym ni’n eu cynnig, gallwch gofrestru i ymuno ag un o’n gweminarau yma. Cadw llygad ar ein rhestr chwarae gwe-dathliad ar Youtube yma.

EICH PRIF GYFRIFOLDEBAU A’CH DYLANWAD

 

Mae’r rhaglen drochi (JOA26) yn cyfuno hyfforddiant gan arbenigwyr sydd â phrofiad ymarferol, ynghyd â chymorth wedi ei deilwra i’ch helpu chi i ddatblygu. Byddwch yn cwblhau modiwlau craidd – fel technegau ymchwil, gwerthuso ffynonellau, dadansoddi data, creu cynnwys amlgyfrwng, cyfraith y cyfryngau a llawer mwy – gan roi’r sgiliau sydd eu hangen arnoch i weithio ym maes newyddiaduriaeth heddiw. Fel rhan o’ch asesiad terfynol, byddwch yn gweithio tuag at Gymhwyster Cenedlaethol yr NCTJ mewn Newyddiaduraeth (NQJ), sy’n cael ei gydnabod ar draws y diwydiant fel meincnod rhagoriaeth.

 

I gael rhagor o wybodaeth am safon y brentisiaeth, ewch i’r ddolen hon. Mae’r safon hon wrthi’n cael ei hadolygu er mwyn troi’n safon Lefel 6.

 

Mae rhagor o wybodaeth am Gymhwyster Cenedlaethol yr NCTJ mewn Newyddiaduraeth ar gael yma.

 

EICH SGILIAU A’CH CYMHWYSEDD

 

Rydym ni eisiau gwybod pam eich bod chi’n awyddus i weithio yn y BBC ac mae gennym ddiddordeb yn eich brwdfrydedd i ddarparu cynnwys o’r radd flaenaf a rhagoriaeth weithredol i’n cynulleidfaoedd. Nid ydym yn canolbwyntio ar eich cymwysterau, yn hytrach rydym ni’n chwilio am botensial, a byddwn yn rhoi cyfle i chi roi eich profiad a’ch cryfderau trosglwyddadwy ar waith mewn gwahanol ffyrdd.

 

Rydym ni’n chwilio am bobl sydd ar ddechrau eu gyrfa fel newyddiadurwr ac sy’n gallu dangos eu sgiliau newyddiadurol a’u sgiliau dweud stori mewn gwahanol ffyrdd. Efallai eich bod chi’n ysgrifennu erthyglau i wefan neu bapur newydd lleol, yn gweithio mewn gorsaf radio sydd yn rhannu cynnwys newyddion, yn blogio neu’n flogio, neu’n creu cynnwys ar gyfer y cyfryngau cymdeithasol. Mae’n bosib y bydd gennych chi hefyd Ddiploma NCTJ neu gymhwyster arall mewn Newyddiaduraeth, fel y Brentisiaeth Newyddiadurwr Lefel 5.

 

Os oes gennych chi rai o’r sgiliau a’r profiadau hyn, ynghyd â chryfderau trosglwyddadwy, byddem yn falch o glywed gennych chi ac rydym yn eich annog i wneud cais:

 

  • Yn dangos eich bod eisoes yn meddu ar sgiliau newyddiadurol
  • Yn agored ac yn chwilfrydig am bobl a’r hyn sy’n digwydd yn y byd
  • Yn gallu meddwl am syniadau gwreiddiol a chreadigol am ffyrdd o gyrraedd cynulleidfaoedd newydd
  • Yn darllen, yn gwylio ac yn gwrando ar y newyddion yn rheolaidd ar bob llwyfan
  • Yn hyblyg, yn llawn cymhelliant ac yn barod i addasu i gyflymder y gwaith.

 

MEINI PRAWF CYMHWYSEDD

 

Mae’n rhaid i chi fodloni’r gofynion canlynol i fod yn gymwys ar gyfer prentisiaeth yn y BBC:

  • Bod yn 18 oed neu’n hŷn erbyn y bydd y brentisiaeth yn dechrau ym mis Medi 2026
  • Bod wedi byw yn y DU yn ddi-dor am y 3 blynedd cyn dechrau’r brentisiaeth
  • Bod yn gymwys yn gyfreithiol i weithio’n llawn-amser yn y Deyrnas Unedig am holl gyfnod y brentisiaeth
  • Bod heb gofrestru ar gynllun prentisiaeth arall sy’n cael ei gefnogi gan y BBC neu sefydliad arall ar hyn o bryd.

 

I wneud cais am y cynllun hwn, rhaid i chi fod:

  • Heb gwblhau unrhyw elfennau o’r Cymhwyster Cenedlaethol mewn Newyddiaduriaeth (NQJ) o’r blaen
  • Yn meddu ar un ai TGAU Mathemateg a Saesneg Gradd 4/C neu uwch, gradd C mewn cymhwyster National 5 (yr Alban), Sgiliau Swyddogaethol Lefel 2; neu gymhwyster cyfatebol.

 

I ymgeiswyr dan 19 oed ar 8fed Medi 2026: Er mwyn cwblhau’r brentisiaeth, rhaid i chi fod wedi cyflawni Bagloriaeth Lefel GCSE mewn Mathemateg a Saesneg yn Radd 4/C neu’n uwch neu Cwrs Cenedlaethol 5 (Yr Alban) yn C neu Sgiliau Gweithredol Lefel 2 neu gymwyster sydd yn gyfwerth. Os nad ydych wedi cyflawni’r cymwysterau hyn erbyn dechrau eich brentisiaeth, bydd yn rhaid i chi gyflawni Sgiliau Gweithredol Lefel 2 cyn diwedd eich brentisiaeth pan fyddwch yn cymryd eich asesiad pwynt terfynol.

 

BAROD I YMGEISIO?

 

Peidiwch â cholli’r cyfle i fod yn rhan o rywbeth cyffrous. Ydych chi’n gweld eich hun yn ffynnu yn y rôl hon? Cliciwch ‘Ymgeisio Nawr’!

 

Bydd angen i chi greu proffil ymgeisydd ac ateb ambell gwestiwn – does dim angen CV na llythyr cais.

 

Os ydych chi’n gymwys, byddwn ni’n eich tywys drwy’r camau nesaf gan roi syniad i chi o beth i’w ddisgwyl.

 

Bydd angen i chi fyw o fewn pellter teithio i leoliad y swydd hon. Eisiau gweithio o leoliad gwahanol? Edrychwch ar ein hysbysebion eraill – ond cofiwch mai dim ond am un swydd y gallwch wneud cais.

 

Mae hon yn brentisiaeth am gyfnod penodol – bydd eich contract yn para hyd ddiwedd y cynllun. Ar ôl cwblhau’r cynllun, byddwch chi’n cael eich cefnogi i ddatblygu yn eich gyrfa ac yn derbyn hyfforddiant cyflogadwyedd a chyfleoedd i rwydweithio i’ch helpu i gymryd y camau nesaf – boed hynny gyda’r BBC neu gyda sefydliad arall yn y diwydiant.

Disclaimer

This job description is a written statement of the essential characteristics of the job, with its principal accountabilities, incorporating a note of the skills, knowledge and experience required for a satisfactory level of performance. This is not intended to be a complete, detailed account of all aspects of the duties involved.

Our apprenticeship roles are also subject to you having the require qualifications that we have deemed to be necessary for your role and the requirement of the training provider for your scheme.  The offer would be subject to you undergoing and meeting the requirements of a skill scan process with the BBC nominated training provider to determine your eligibility.

Please note: If you were to be offered this role, the BBC will conduct Employment screening checks which include Reference checks; Eligibility to work checks; and if applicable to the role, Safeguarding and Adverse media/Social media checks. Any offer made is conditional on these checks being satisfactory.

Information at a Glance

This is your BBC

At the BBC you can create and innovate in an inclusive environment while contributing to some of the world’s best loved content, and the BBC’s mission to inform, educate and entertain.

Life at BBC

Here you will benefit from:
•  Excellent career and professional development.
•  Fair pay and flexible benefits including a competitive salary package, a 35-hour working week, 25 days annual leave (26 days for BBC Studios), a range of policies to support your work/life balance, a defined pension scheme and discounted dental, health care and gym.
•  A values-based organisation where the way we do things is important as what we do.

As an Apprentice you will also receive:
•  An industry recognised qualification.
•  Industry-leading training through the BBC Academy and our learning providers (this may involve travel to locations across the UK).
•  A dedicated Team Manager and Scheme Specialist to help with your development.
•  Training and Mentoring by industry professionals.
•  A bespoke BBC apprenticeship experience including apprenticeship development days and membership of the BBC Apprenticeship community.
•  Employability and networking training and support to help you secure your next role.
•  The opportunity to apply for financial support for relocation subject to eligibility.

You belong

We have a working environment where we value and respect every individual’s unique contribution, so all our employees feel that they can belong, thrive and achieve their full potential.

We want to attract the broadest range of talented people to join us. The more diverse our workforce, the better able we are to respond to and reflect our audiences in all their diversity.

We welcome applications from individuals, regardless of age, gender, ethnicity, disability, sexual orientation, gender identity, socio-economic background, religion and/or belief.

Find out more about diversity, inclusion and belonging in our strategy below.

Disability confident

We take inclusivity seriously and want to ensure all candidates who are disabled or have long-term health conditions receive the support and adjustments they need. If you need to discuss adjustments or access requirements for the recruitment process, or to carry out this role, please contact us via the Early Careers Recruitment contact form and we’d be happy to discuss how we can support you through the process.

Keep in touch

Sign up to receive the NCTJ’s eJournalism newsletter. Sent once a month, it will keep you up to date with the latest news and developments in journalism training.