Prentisiaeth Newyddiadurwr Iau – Lefel 5 – BBC Chwaraeon – Caerdydd – Welsh Language – Sport

AI UN O BRENTISIAETHAU’R BBC YW’R SWYDD NESAF I CHI?

 

Ymunwch â ni fel prentis yn y BBC i roi hwb i’ch gyrfa mewn swydd y byddwch wrth eich bodd â hi. Rydym ni wedi ymrwymo i’ch helpu chi i ddatblygu eich sgiliau a’ch talent. Byddwch yn dysgu yn y gwaith ac yn cael cyfle i ddatblygu eich gwybodaeth a’ch sgiliau mewn maes y mae gennych chi ddiddordeb mawr ynddo, a hynny wrth weithio tuag at eich cymhwyster prentisiaeth gydag un o’n darparwyr dysgu.

 

PAM YMUNO Â’R CYNLLUN?

 

Mae’r Brentisiaeth Newyddiadurwr Iau yn ddelfrydol ar gyfer unigolion chwilfrydig sy’n frwd dros adrodd straeon. Os ydych chi newydd adael yr ysgol neu ar fin gorffen yr ysgol ac nad yw prifysgol yn addas i chi, mae’r rhaglen hon yn darparu hyfforddiant newyddiaduraeth o’r radd flaenaf gyda’r darlledwr gwasanaeth cyhoeddus mwyaf y byd.

 

Byddwch yn cael profiad ymarferol wrth weithio tuag at Ddiploma NCTJ mewn Newyddiaduraeth a chymhwyster prentisiaeth Lefel 5 – gan eich paratoi ar gyfer dyfodol yn y diwydiant.

 

 

I gael rhagor o wybodaeth am y cynlluniau rydym ni’n eu cynnig, gallwch gofrestru i ymuno ag un o’n gweminarau yma. Cadw llygad ar ein rhestr chwarae gwe-dathliad ar Youtube yma.

 

PAM YMUNO Â’R TÎM?

 

Mae gan Adran Chwaraeon BBC Cymru Wales hanes anhygoel o ddatblygu a darparu cynnyrch gwreiddiol a gwahanol yn ddyddiol ar draws llwyfannau digidol, y teledu a’r radio, gan gynnwys brandiau hysbys sydd ag enw da fel Scrum V, MOTD Wales, Clwb Rygbi, Feast of Football, Radio Wales Sport, Chwaraeon Radio Cymru, a BBC Sport ar-lein. Rydym yn chwilio am brentisiaid sy’n frwd dros chwaraeon ac sy’n awyddus i weithio gyda rhai o ddigwyddiadau chwaraeon mwyaf Cymru mewn amgylcheddau gwaith prysur.

 

EICH PRIF GYFRIFOLDEBAU A’CH DYLANWAD

 

Fel Prentis Newyddiadurwr Iau, dyma gyfle gwych i ddysgu, tyfu a chyfrannu. Byddwch yn:

 

  • Gweithio ochr yn ochr â thimau newyddion chwaraeon i ddatblygu eich sgiliau newyddiadurol, gan greu a darparu cynnwys o safon ar gyfer y BBC
  • Yn rhan o holl weithgareddau’r ystafell newyddion chwaraeon, fel dod o hyd i gyfranwyr neu westeion difyr, ysgrifennu briffiau ar gyfer eich tîm, neu ffilmio a golygu ffilmiau
  • Canfod a chreu straeon ar gyfer cynulleidfaoedd amrywiol, gan gynnwys meddwl am syniadau newydd, cynnal ymchwil fanwl, a chynorthwyo gyda chyfweliadau
  • Gweithio gydag arbenigwyr yn y sefydliad darlledu gwasanaeth cyhoeddus mwyaf yn y byd, a dysgu ganddynt.

 

Byddwch yn astudio ar gyfer cymhwyster prentisiaeth sy’n cael ei gydnabod yn y diwydiant, gan ddysgu yn y gwaith a’r tu allan i’r gwaith. Mae hyn y byddwch chi, fel prentis, yn dilyn y safon Prentisiaeth Newyddiadurwr (cwricwlwm) ac yn gweithio tuag at gymhwyster sy’n cael ei gydnabod gan y diwydiant, sef Diploma NCTJ mewn Newyddiaduraeth. Asesir hyn drwy arholiadau a gwaith cwrs.

 

I gael rhagor o wybodaeth am fframwaith y brentisiaeth, ewch i’r ddolen hon (JRA26). Mae rhagor o wybodaeth am Ddiploma NCTJ ar gael drwy ddilyn y ddolen hon.

 

EICH SGILIAU A’CH CYMHWYSEDD

 

Rydym ni eisiau gwybod pam eich bod chi’n awyddus i weithio yn y BBC ac mae gennym ddiddordeb yn eich brwdfrydedd i ddarparu cynnwys o’r radd flaenaf a rhagoriaeth weithredol i’n cynulleidfaoedd. Nid ydym yn canolbwyntio ar eich cymwysterau, yn hytrach rydyn ni’n chwilio am botensial, a byddwn yn rhoi cyfle i chi roi eich profiad a’ch cryfderau trosglwyddadwy ar waith mewn gwahanol ffyrdd.

 

Os oes gennych chi rai o’r sgiliau a’r profiadau hyn, ynghyd â chryfderau trosglwyddadwy, byddem yn falch o glywed gennych chi ac rydym yn eich annog i wneud cais:

 

  • Yn chwilfrydig iawn am chwaraeon a’r newyddion o’i gwmpas
  • Yn llawn syniadau creadigol a ffyrdd llawn dychymyg o adrodd straeon
  • Yn frwd dros gynhyrchu cynnwys chwaraeon mewn newyddion a materion cyfoes ar draws teledu, sain, ar-lein a chyfryngau cymdeithasol
  • Mae ysgrifennu yn eich cyffroi
  • Agwedd hyblyg, llawn cymhelliant ac yn barod i addasu i gyflymder ystafell newyddion chwaraeon.

 

Mae’r cynllun hwn wedi’i anelu at bobl heb raddio. Os oes gennych chi radd neu ddiploma NCTJ mewn Newyddiaduraeth a’ch bod yn dymuno hyfforddi fel Newyddiadurwr yn y BBC, rydym yn argymell eich bod yn gwneud cais am Brentisiaeth Newyddiadurwr Lefel 6.

 

MEINI PRAWF CYMHWYSEDD

 

Mae’n rhaid i chi fodloni’r canlynol i fod yn gymwys ar gyfer prentisiaeth yn y BBC:

  • Bod yn 18 oed neu’n hŷn erbyn y bydd y brentisiaeth yn dechrau ym mis Medi 2026
  • Bod wedi byw yn y DU yn ddi-dor am y 3 blynedd cyn dechrau’r brentisiaeth
  • Bod yn gymwys yn gyfreithiol i weithio’n llawn-amser yn y Deyrnas Unedig am holl gyfnod y brentisiaeth
  • Bod heb gofrestru ar gynllun prentisiaeth arall sy’n cael ei gefnogi gan y BBC neu sefydliad arall ar hyn o bryd.

 

I wneud cais am y cynllun hwn, rhaid bodloni’r canlynol hefyd:

  • Nid ydych wedi cwblhau nac yn astudio ar gyfer diploma NCTJ neu gymhwyster newyddiaduraeth ar yr un lefel neu uwch
  • Mae gennych un ai TGAU Mathemateg a Saesneg Gradd 4/C, gradd C mewn cymhwyster National 5 (yr Alban), Sgiliau Swyddogaethol Lefel 2; neu gymhwyster cyfatebol.

I gwblhau’r prentisiaeth, mae’n rhaid i chi gael Lefel 2 Sgiliau Hanfodol Cymru mewn: Cyfathrebu a Chymhwyso Nifer o fewn y 12 mis cyntaf o’r prentisiaeth.

 

BAROD I YMGEISIO?

 

Peidiwch â cholli’r cyfle i fod yn rhan o rywbeth cyffrous. Ydych chi’n gweld eich hun yn ffynnu yn y rôl hon? Cliciwch ‘Ymgeisio Nawr’!

 

Bydd angen i chi greu proffil ymgeisydd ac ateb ambell gwestiwn – does dim angen CV na llythyr cais.

 

Os ydych chi’n gymwys, byddwn ni’n eich tywys drwy’r camau nesaf gan roi syniad i chi o beth i’w ddisgwyl.

 

Bydd angen i chi fyw o fewn pellter teithio i leoliad y swydd hon. Eisiau gweithio o leoliad gwahanol? Edrychwch ar ein hysbysebion eraill – ond cofiwch mai dim ond am un swydd y gallwch wneud cais.

 

Mae hon yn brentisiaeth am gyfnod penodol – bydd eich contract yn para hyd ddiwedd y cynllun. Ar ôl cwblhau’r cynllun, byddwch chi’n cael eich cefnogi i ddatblygu yn eich gyrfa ac yn derbyn hyfforddiant cyflogadwyedd a chyfleoedd i rwydweithio i’ch helpu i gymryd y camau nesaf – boed hynny gyda’r BBC neu gyda sefydliad arall yn y diwydiant.

Disclaimer

This job description is a written statement of the essential characteristics of the job, with its principal accountabilities, incorporating a note of the skills, knowledge and experience required for a satisfactory level of performance. This is not intended to be a complete, detailed account of all aspects of the duties involved.

Our apprenticeship roles are also subject to you having the require qualifications that we have deemed to be necessary for your role and the requirement of the training provider for your scheme.  The offer would be subject to you undergoing and meeting the requirements of a skill scan process with the BBC nominated training provider to determine your eligibility.

Please note: If you were to be offered this role, the BBC will conduct Employment screening checks which include Reference checks; Eligibility to work checks; and if applicable to the role, Safeguarding and Adverse media/Social media checks. Any offer made is conditional on these checks being satisfactory.

Information at a Glance

This is your BBC

At the BBC you can create and innovate in an inclusive environment while contributing to some of the world’s best loved content, and the BBC’s mission to inform, educate and entertain.

Life at BBC

Here you will benefit from:
•  Excellent career and professional development.
•  Fair pay and flexible benefits including a competitive salary package, a 35-hour working week, 25 days annual leave (26 days for BBC Studios), a range of policies to support your work/life balance, a defined pension scheme and discounted dental, health care and gym.
•  A values-based organisation where the way we do things is important as what we do.

As an Apprentice you will also receive:
•  An industry recognised qualification.
•  Industry-leading training through the BBC Academy and our learning providers (this may involve travel to locations across the UK).
•  A dedicated Team Manager and Scheme Specialist to help with your development.
•  Training and Mentoring by industry professionals.
•  A bespoke BBC apprenticeship experience including apprenticeship development days and membership of the BBC Apprenticeship community.
•  Employability and networking training and support to help you secure your next role.
•  The opportunity to apply for financial support for relocation subject to eligibility.

You belong

We have a working environment where we value and respect every individual’s unique contribution, so all our employees feel that they can belong, thrive and achieve their full potential.

We want to attract the broadest range of talented people to join us. The more diverse our workforce, the better able we are to respond to and reflect our audiences in all their diversity.

We welcome applications from individuals, regardless of age, gender, ethnicity, disability, sexual orientation, gender identity, socio-economic background, religion and/or belief.

Find out more about diversity, inclusion and belonging in our strategy below.

Disability confident

We take inclusivity seriously and want to ensure all candidates who are disabled or have long-term health conditions receive the support and adjustments they need. If you need to discuss adjustments or access requirements for the recruitment process, or to carry out this role, please contact us via the Early Careers Recruitment contact form and we’d be happy to discuss how we can support you through the process.

Keep in touch

Sign up to receive the NCTJ’s eJournalism newsletter. Sent once a month, it will keep you up to date with the latest news and developments in journalism training.